CYPE(5)-18-18 – Papur i’w nodi 2

 

Cyfnod Gras neu Gyfnod Esemptio Dros Dro

 

Ar 24 Mai, rhoddodd Chwarae Teg dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru).  Nid oedd Chwarae Teg yn siwr a fyddai "cyfnod gras" yn cael ei gynnig mewn perthynas â'r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru.

 

Wrth sôn am "gyfnod gras", yr hyn a olygir yw cyfnod pan fyddai plentyn yn parhau i dderbyn gofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth, pe bai ei rieni yn mynd yn anghymwys i fanteisio ar elfen gofal plant y cynnig o 30 awr. Mae’n debygol mai un o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros hyn fydd lle mae un rhiant neu’r ddau riant yn colli eu swydd neu fod eu horiau’n cael eu gostwng islaw’r isafswm sy’n ofynnol.  

 

Mae'r model sy'n cael ei dreialu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynnwys "cyfnod gras", ond y term a ddefnyddir yw Cyfnod Esemptio Dros Dro.  Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn bwysig bod teuluoedd sy'n mynd yn anghymwys yn parhau i allu manteisio ar y cynnig am gyfnod penodol. Nid yn unig mae hyn yn rhoi sefydlogrwydd i'r plant ac i ddarparwyr y gofal plant, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i'r rhieni gymryd camau i adfer eu hawl i'r cynnig.

 

O dan y model presennol, pan fydd unigolyn yn mynd yn anghymwys i fanteisio ar y cynnig gofal plant, mae'n dechrau ar gyfnod esemptio dros dro o 8 wythnos, pan gaiff ei blentyn barhau i dderbyn gofal plant a gyllidir gan y Llywodraeth.

 

Cyfrifoldeb y rhiant yw rhoi gwybod i'w awdurdod lleol a’i ddarparwr bod ei amgylchiadau wedi newid ac nad yw, bellach, yn gymwys i fanteisio ar y cynnig. Os bydd amgylchiadau rhiant yn newid ac yntau heb roi gwybod i'w awdurdod lleol ar unwaith, bydd ei gyfnod esemptio dros dro’n dal i redeg o’r adeg y peidiodd â bod yn gymwys. Er enghraifft, os yw rhiant yn mynd yn anghymwys ond ei fod yn methu â rhoi gwybod i'w awdurdod lleol nes bod 4 wythnos wedi mynd heibio, dim ond 4 wythnos o’i gyfnod esemptio dros dro fydd yn weddill. Unwaith y daw cyfnod esemptio dros dro rhiant i ben, ni fydd yn gallu manteisio ar y cynnig mwyach, a bydd yn gyfrifol am dalu’r costau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r darparwr gofal plant hwnnw. 

 

Mae'r drefn hon yn cael ei threialu ar hyn o bryd fel rhan o drefniadau gweithredu'r cynnig yn gynnar yng Nghymru, a chaiff ei hadolygu fel rhan o'r gwerthusiad o gynlluniau peilot y flwyddyn gyntaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i sicrhau cyfnod esemptio dros dro teg a chyson pan gaiff y cynnig ei gyflwyno yng Nghymru.

 

Beth sy'n digwydd yn Lloegr?

Yn Lloegr, os bydd plentyn yn mynd yn anghymwys i fanteisio ar y cynnig 30 awr, mae gofyn i'r awdurdodau lleol barhau i gyllido ei le am "gyfnod gras" (bydd y plentyn yn dal i fod yn gymwys i fanteisio ar y cynnig 15 awr sydd ar gael i bawb).

 

Yn ystod tymor yr hydref a thymor y gwanwyn, mae hyn yn golygu cyllido plentyn:

-   tan ddiwedd y tymor os aiff yn anghymwys yn ystod hanner cyntaf y tymor;

-   tan ddiwedd yr hanner tymor canlynol os aiff yn anghymwys yn ystod ail hanner y tymor.

Yn ystod tymor yr haf, mae hyn yn golygu cyllido plentyn:

 

-   tan ddiwedd y tymor os aiff yn anghymwys yn ystod hanner cyntaf y tymor;

-   tan ddechrau tymor mis Medi os aiff yn anghymwys yn ystod ail hanner y tymor.